|
"Dyw hyfforddiant byth ar ben.
Rhaid iddi fod yn barhaus"
Dawns Dyfed |
Amcanion 'Camau mewn Amser'
Cynnig cyrsiau/digwyddiadau hyfforddi a
datblygiad personol sydd yn hygyrch,
yn amrywiol ac wedi eu lluniošn benodol i ateb gofynion
ymarferwyr dawns
gymuned.
Beth rydyn nišn ei gynnig?
Cynlluniau hyfforddi ar gyfer:
A
Rhaglen amrywiol o Gyrsiau Byrion a
Digwyddiadau Hyfforddi, wedi eu trefnu
gan DGC, yn canolbwyntio ar:
-
Datblygiad artistig
-
Busnes a Rheolaeth
-
Datblygiad cymunedol
-
Datblygiad Personol
-
Dysgu ac Arwain
Mae 'Camau mewn Amser' wedi ei anelu at
Ymarferwyr dawns gymuned syšn eiddgar i
barhau i ddatblygušn broffesiynol.
Efallai y bydd y cyrsiaušn apelio hefyd at unigolion eraill
syšn gweithio yn
y celfyddydau neu yn y gymuned syšn ceisio datblygu sgiliau
addas ar gyfer
gweithio gyda dawns.
Ble a Phryd:
Amcan 'Camau mewn Amser' yw ateb gofynion hyfforddi unigolion ym mhob rhan o Gymru. Byddwn yn cynnal cyrsiau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, mewn amrywiaeth eang o ganolfannau, drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg fel bo'n
briodol.
Cost:
Mae 'Camau mewn Amser' am fuddsoddi mewn unigolion a dileu pob rhwystr a allai atal pobl rhag mynychu ein cyrsiau/digwyddiadau. Mae'n holl raglenni a chynlluniau hyfforddi wedi eu noddi er mwyn i amrywiaeth eang o gyfranogwyr allu elwa ar y cyfleoedd hyn.
|