photo © cdwphoto © Mark JohnsonCDWphoto © cdw
 

Partneriaeth Datblygiad Proffesiynol 

 

Bydd DGC/Camau mewn Amser yn hwyluso partneriaethau rhwng rhai dan hyfforddiant a goruchwylwyr ym maes dawns gymuned gyda'r bwriad o greu cyfle newydd i gael hyfforddiant o safon yng Nghymru. Bydd DGC yn cefnogi'r cynllun yn ariannol ac yn helpu i'w reoli.

Buddiannau i'r hyfforddai - Cyfle i:

  • Ddilyn rhaglen bwrpasol o ddatblygiad proffesiynol

  • Magu mwy o hunan-hyder ac annibyniaeth

  • Dysgu sgiliau newydd mewn cyd-destun cefnogol ac ymarferol

  • Derbyn hyfforddiant 'yn y swydd' gan ymarferwyr proffesiynol ar sail un-i-un

  • Ennill profiad ymarferol

  • Ehangu eu rhwydwaith o gysylltiadau yn y broffesiwn

Buddiannau i'r goruchwylydd - Cyfle i:

  • Rannu sgiliau a phrofiadau

  • Datblygu sgiliau mentor, cynghori a chwnsela

  • Ystyried arfer da

  • Gweithio gyda hyfforddai ymrwymedig a brwdfrydig

  • Cynorthwyo â datblygu cyfleoedd hyfforddi o safon i ddawns gymuned yng Nghymru

Sut mae'r cynllun yn gweithio:

  • Bydd darpar-oruchwylwyr yn gallu cysylltu â DGC i gynnig partneriaeth datblygiad proffesiynol

  • Gellir rhoi darpar-hyfforddai mewn cysylltiad â goruchwylydd

  • Gall goruchwylydd a hyfforddai fynd at DGC gyda'i gilydd am gymorth gyda phartneriaeth datblygiad proffesiynol benodol

  • Gall DGC gysylltu â darpar-oruchwylydd neu ddarpar hyfforddai i awgrymu partneriaeth datblygiad proffesiynol

Y broses:

  • Bydd DGC yn trefnu cyfarfod rhwng yr hyfforddai a'r goruchwylydd i gytuno ar nodau ac amcanion a sicrhau fod pawb sy'n ymwneud â'r cynllun wedi cytuno ar agenda glir 

  • Bydd DGC yn helpu i lunio amserlen wedi ei chynllunio'n ofalus i roi'r profiadau angenrheidiol er mwyn cyflawni'r amcanion a nodwyd 

  • Bydd fframwaith glir yn cael ei chreu a fydd yn sicrhau fod hynt a datblygiad yr hyfforddai yn cael eu monitro a'u gwerthuso'n ofalus

Dylai'r amserlen ar gyfer y cyfnod gwaith gynnwys yr elfennau a ganlyn:

  • Dilyn a gwylio'r goruchwylydd wrth ei g/waith ymarferol a gweinyddol 

  • Dilyn a gwylio gwaith ymarferwyr proffesiynol eraill sy'n cynnwys dewis amgen o weithgareddau dawns neu waith gyda grwpiau amgen

  • Magu profiad ymarferol drwy redeg gweithgareddau dawns a gwneud peth o'r gwaith gweinyddol, o dan oruchwyliaeth 

  • Mynychu dosbarthiadau a pherfformiadau i ddysgu sgiliau/arddulliau dawns newydd

  • Parhau i loywi sgiliau a chynnal ffitrwydd yr hyfforddai 

  • Cyflwyniad i faterion Iechyd a Diogelwch, Ymwybyddiaeth o Anabledd, a Chyfleoedd Cyfartal 

  • Amser i fyfyrio ar brofiadau a datblygiad

  • Amser i drafod materion allweddol yn ymwneud ag arwain dawns yn y gymuned

  • Proses o fonitro a gwerthuso llwyddiant a datblygiad

  • Digwyddiadau hyfforddi perthnasol eraill

Cymorth Ariannol:

  • Bydd Camau mewn Amser yn cefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod gwaith drwy gynnig cymorth ariannol i sicrhau eu bod yn gallu ymrwymo i'r bartneriaeth a rhoi'r amser angenrheidiol iddi

  • Bydd y tâl a negydir ar gyfer yr hyfforddai yng nghyffiniau £4.00 yr awr 
    (e.e. £60.00 yr wythnos - lleiafswm o 16 awr o amser cyswllt (16 - 20 awr)

  • Bydd y cyfnodau gwaith fel rheol yn para o 1 i 3 mis

Dylai Hyfforddai fod:

  • Yn 18 oed neu'n hyn

  • Yn byw neu weithio yng Nghymru yn bennaf

  • Eisoes wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol mewn dawns

  • Ag ymrwymiad i ddatblygu gyrfa fel ymarferydd Dawns Gymuned

Dylai Goruchwylydd fod:

  • Ag o leiaf 5 mlynedd o brofiad gwaith proffesiynol perthnasol

  • Yn byw neu weithio yng Nghymru yn bennaf

  • Eisoes yn gweithio fel ymarferydd Dawns Gymuned

Os hoffech gael gwybodaeth bellach neu sgwrs anffurfiol ynglyn â'r cynllun yma, cysylltwch â'r

Cydgysylltydd Hyfforddi yn DGC,
Sbectrwm, 
Heol y Bwlch,
Y Tyllgoed, 
Caerdydd,
CF5 3EF
Tel: 029 20 575 075 
Ffacs: 029 20 575 073
E-bost: info@communitydancewales.com 

Caiff pob cais ei bwyso a'i fesur yn erbyn y meini prawf penodedig a'i asesu gan 'Grwp Llywio'r Camau' a bydd penderfyniad hwnnw yn derfynol. Gellir ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond cofiwch fod yr arian sydd ar gael ar gyfer y cynllun yma yn gyfyngedig.

Gallwch gael y wybodaeth yma yn Saesneg, mewn print mawr ac mewn e-bost hefyd.

 
       

yr holl gynnwys (h) dawns gymuned cymru