Aelodau
Project Dawns Gymuned
Sirol Caerffili - Carys Wyn
Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Y Stryd Fawr, Y Coed Duon,
Caerffili
01495 224425
Danceblast - Emma & Sally Carlson
c/o Chepstow Library Manor Way Chepstow NP6 5HZ
01291 635630
Sefydlwyd Dance Blast ym 1998 i gyflwyno gweithgareddau dawns creadigol o ansawdd uchel ar draws Sir Fynwy a
Thorfaen. Rydym wedi cael cydnabyddiaeth wych yn y ddwy sir ac mae ffigurau cyfranogiad blynyddol bellach dros 6,000.
Dawns Dyfed - Margaret Ames
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron, Ceredigion, SA48 8AF
01570 471049
Mae Dawns Dyfed yn darparu hyfforddiant proffesiynol, gweithdai a chreu gwaith perfformio yng Nghanolfannu Gweithgareddau Cymdeithasol, clybiau ieuenctid, ysgolion uwchradd, canolfannau addysg cymunedol, sefydliadau gofal preifat, colegau a phrifysgolion, gwyliau celfyddydol lleol, a phrosiectau lleol ledled gorllewin Cymru.
Mae Dawns Dyfed yn gwneud gwaith helaeth ledled gorllewin Cymru i ddarparu cyfleoedd creadigol a dawns ar gyfer pobl a phlant o bob oedran, cefndir a gallu sydd â diddordeb.
Dawns i Bawb - Sioned Huws
Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ
01286 685220
Dawns i Bawb yw'r sefydliad arbennig ar gyfer dawns yn y gymuned yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda chysylltiadau efo Awdurdodau Lleol Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, mae‚n darparu gweithgaredd ar gyfer pob oedran, gallu, grwpiau dan anfantais ac mewn lleoedd diarffordd, ac wedi ennill enw da am fod yn ddarparwr gwych o gelf gymunedol.
O fod yn gweithio mewn cymunedau
dwy-ieithog, adlewyrchir amrywiaeth sy'n dennu partneriaid diddorol o
dramor. Dengys prosiectau cyfnewid efo Hwngari nad yw Dawns i Bawb yn gweld ei hun fel darparwr lleol yn unig ond hefyd yn un sydd â rhwydwaith o gysylltiadau
rhyngwladol. Mae ein tîm yn gyfuniad o sgiliau dysgu dawns, gweinyddiaeth ac arweinyddiaeth artistig cryf yn ogystal â brwdfrydedd a
chreadigrwydd. Mae ein cartref yn y ganolfan gelfyddydau gyffrous newydd yng Nghaernarfon -
Galeri, canolfan sy wedi ei lleoli yn nhirlun godidog
Gwynedd.
Dawns TAN Dance - Carol Brown
Baglan Community Centre, Hawthorn Av. Baglan Neath, Port Talbot SA12
8PG
01639 813428
Mae ein gwaith yn gelfydd ac yn addysgiadol, a chaiff ei ddefnyddio fel offeryn ar gyfer datblygiad personol, grwp a chymunedol, cyfranogiad cymdeithasol ac integreiddio. Mae'n darparu ar gyfer pob oedran a gallu o blant cyn-ysgol i'r
henoed.
Mae ein gwaith yn gelfydd ac yn addysgiadol, a chaiff ei ddefnyddio fel offeryn ar gyfer datblygiad personol, grwp a chymunedol, cyfranogiad cymdeithasol ac integreiddio. Mae'n darparu ar gyfer pob oedran a gallu o blant cyn-ysgol i'r
henoed.
Mae TAN yn cynnal rhaglen ieuenctid ar draws y ddwy sir.
Mae ein prosiect blynyddol, dawns mewn addysg, yn cael ei gynnig yn ddwyieithog
Mae TAN yn gweithio mewn addysg ac yn y gymuned trwy siroedd Abertawe a Nedd Port Talbot. Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau bregus a ymylol ac ardaloedd dan
anfantais.
Cynllunir rhaglenni gwaith er mwyn darparu ar gyfer anghenion y grwpiau a chymunedau cleient mewn lleoliadau
gwledig, trefol a'r cymoedd.
Yr ydym yn adnabyddus am ein gwaith arloesol mewn dawns i
ddynion. Mae cwmni dawns dynion TAN, Dynion, sydd wedi eu
gwobrwyo, wedi teithio i ddeg gwlad ac wedi cynnal a chymryd rhan mewn llawer o cyfnewidiadau
diwylliannol.
Mae TAN yn gweithio fel hwyluswyr i bobl greu eu celf eu hunain a chael eu llais eu
hunain, ac wedi cynnal cynhyrchiadau cymunedol ymhob un o leoliadau theatrig yr
ardal, o'r un lleiaf i'r mwyaf.
Powys Dance
The Dance Centre Arlais Road Llandrindod Wells Powys LD1 5HE
01597 824370
Meithrin diwylliant trwy ddawns
Dawns mewn cyd-destunau gwledig
Cymuned - Addysg - Yr Iaith Gymraeg
Datblygu dealltwriaeth o Ddawns fel Celfyddyd
Dawns mewn Gweithgareddau Hamdden
Dawns ar gyfer Iechyd
Plantos
Ieuenctid
Oedolion
Myfyrwyr
Pobl Hyn
Diwylliannau Amrywiol
Pobl Anabl
Annog
Datblygu
Cyfranogi
Dealltwriaeth
Diwylliant
Iaith
Rhondda Cynon Taff Community Arts
- Julie Evans / Louise Prosser
Park and Dare Station Road Treorchy Rhondda Cynon Taff CF42 6NL
01443 776090
Mae Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf yn elusen annibynnol, a sefydlwyd yn 1983 ac yn fudiad celfyddydau cymunedol aml-ddisgyblaeth proffesiynol
Mae Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau creadigol sy'n galluogi pobl i greu celfwaith sy'n bwysig ac yn berthnasol i'w bywydau a'u
cymunedau.
Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf elusen rhif: 702198 cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Gwasanaethau Diwylliannol a Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir Bwrdeistrefol Rhondda Cynon Taf, a grant Loteri oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru a chyda chymorth ariannol gan Gymdeithas Addysg y
Gweithwyr.
Mae Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf yn ymrwymiedig i ddatblygu celf trwy Rhondda Cynon Taf. Yr ydym yn darparu ac yn trefnu:
Gweithdai wythnosol rheolaidd mewn dawns a Chelf Perfformio, dawns mewn Addysg, Rhaglenni Hyfforddi Dawns, Celf Amgylcheddol Cyhoeddus a Chyfryngau Digidol.
Artistiaid a chwmniau yn ymweld â'r ardal
Preswyliadau a Digwyddiadau Hyfforddi
Performiadau cymunedol, arddangosfeydd celf gweledol a digwyddiadau aml-gyfrwng mawr
Cyrsiau hyfforddi wedi eu achredu
Rubicon - Ruth Till
Nora Street, Adamsdown, Cardiff , CF2 1ND
02920 491477
Y Sefydliad Dawns Gymunedol ar gyfer Caerdydd a Chasnewydd
Mae Rubicon yn darparu gweithgareddau dawns i bob oed, gallu ac mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae Rubicon yn creu darpariaeth o ansawdd sy'n gyson uchel ac yn ysbrydoli dawns sy'n berthnasol i bob grwp cymunedol.
Rydym am gyrraedd mwy o bobl
Ein nod yw mynd i'r afael â mynediad i bawb
Mae gan Rubicon.....
Ystod gynyddol o raglenni
Amrywiaeth eang o grwpiau
Mwy o sgiliau dawns yn ein ardaloedd targed
Canolfan Ddawns Rubicon
-
Casnewydd Dosbarthiadau i oedolion
a phobl ifanc
-
Grwpiau Ieuenctid Nubrico
-
Bechgyn Rubicon
-
Cwrs llawn amser
-
Prentisiaid meithrinfeydd
-
Gwirfoddolwyr henoed
Lleoliadau Cymunedol Caerdydd
Cynigir sesiynau ar draws y ddinas
mewn ysgolion, canolfannau cymunedol a chanolfannau henoed.
Lleoliadau Cymunedol
Ffocws cychwynnol ar bobl ifanc ond hefyd
darpariaeth cynyddol ychwanegol ar gyfer
Valley & Vale - Alex Bowen
Sardis Media Centre, Bettws, Bridgend
01656 729246
Mae Celfyddydau Cymunedol y Fro a'r Cymoedd wedi bod yn gweithio yn Ne Cymru ers 1981. Rydym yn blaenoriaethu gwaith gyda phobl a chymunedau sy'n agored i niwed, sydd wedi eu hynysu a'u heithrio, gan gynnig Celfyddydau Cymunedol, y Cyfryngau a Pherfformiad fel offer ar gyfer datblygiad unigol a
chymunedol.
Ein nod yw creu cyfleoedd ar gyfer datblygiad unigol a newid cymdeithasol.
mission statement
Mae gennym enw da am ein gwaith arloseol, proffesiynol a chreadigol, ym meysydd prosesau Celf Cymunedol, cynnyrch celfyddydau a chyfryngau, a pherfformadiau cymunedol. Yr ydym yn creu a chyflenwi gweithdai wedi eu llunio'n benodol, rhaglenni hyfforddi a phrosiectau ar gyfer dawns, theatr fforwm, fideo, animeiddio, ffotograffiaeth, celf gweledol, cerddoriaeth ac aml-gyfrwng.
datganiad cenhadaeth
'celfyddydau Cymunedol y Fro a'r Cymoedd,
cyfoethogi bywydau,
yn defnyddio celfyddydau a chyfryngau
i ryddhau potensial'
amcanion
Anelwn at
adeiladu hyder
galluogi cyfranogiad
hwyluso hunan fynegiant
annog cyfathrebu
cynyddu cynhwysiad
dathlu amrywiaeth
hyrwyddo parch
rhyddhau potensial
cysylltu cymunedau
creu cyfleon ar gyfer newid
National companies
Independent Ballet Wales - 01633 253985
Artistic Director - Darius James
dariusjames@welshballet.co.uk
India Dance Wales - 02920 753002
Artistic Director - Kiran Selvartnam
admin@indiadancewales.com
SWICA - 02920 382094
South Wales Intercultural Arts
Director - Steve Fletcher
sf@swica.force9.co.uk
|