CDWffoto © dgcCDWCDW
 
 

Rheoli Ymddygiad Anodd a Heriol gan Bobl Ifanc

in partnership with Aberystwyth Arts Centre

Dydd Gwener 25 Tachwedd

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Am nifer o resymau mae pobl ifanc yn arddangos ymddygiad sydd yn wrthdrawiadol ac yn aml yn anodd i'w reoli. Mae'r cwrs hwn yn darparu strategaethau y gellir eu gweithredu yn y man gwaith er mwyn ymdrin â phobl ifanc mewn ffordd fwy positif ac ystyrlon.

Bydd y cwrs hyfforddi undydd hwn yn ystyried:

> Beth yw ymddygiad heriol - a oes angen i ni wybod beth yw ei achos? 
> Darllen yr arwyddion: tyndra mewn pobl ifanc
> Arwyddion geiriol a dieiriau
> Strategaethau anghorfforol sy'n gweithio gyda phobl ifanc heriol
> Creu'r amgylchiadau lle gellir ymyrryd yn llwyddiannus

Paul O'Donnell, cyn-weithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol ac ymarferydd cyfiawnder ieuenctid fydd yn cyfarwyddo'r diwrnod.

 
BOOK NOW

tel: 02920 575 075 
email: training@communitydancewales.com

or fill in the form on the course registration page

 
       

yr holl gynnwys (h) dawns gymuned cymru