ffoto © dgcffoto © Mark Johnsonffoto © Mark JohnsonCDW
 
 

Osgoi Anafiadau gyda Kim Pedrick, 
Rhaglen Dawnswyr Iachach Dance UK
A
PILATES gyda Jan Davies 

Dydd Sadwrn 14eg Mai, 
Theatr y Stiwt, Rhos, ger Wrecsam 

Rhedodd Kim y cwrs yma yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr
Yn awr, mae'n bleser gan DGD ddod â'r gweithdy DanceUK yma i ogledd Cymru.

Bydd y sesiwn hon yn 

  • amlinellu gwahanol ffactorau ynglyn ag anatomeg a ffisioleg y dawnsiwr unigol

  • amlinellu'r gwahanol ffactorau yn yr amgylcheddau y byddant yn gweithio ac yn hyfforddi ynddynt, a allai o bosib achosi anafiadau

  • nodi rhai anafiadau dawns cyffredin a chynnig awgrymiadau ar sut i'w hosgoi

  • cynnig canllawiau ar ymdrin ag anafiadau 

  • cynnig enghreifftiau ymarferol o ymarferion i wella anafiadau ac i'w hosgoi yn y lle cyntaf

YN YCHWANEGOL AT HYNNY, BYDD
sesiwn hanner-diwrnod o PILATES 

i'ch bywiogi
gyda'r aelod DGC a'r Hyfforddydd Pilates Stott (TM), Jan Davies 
Cyfres o ymarferion di-drawiad sy'n datblygu nerth, hyblygrwydd, cydbwysedd ac ymwybyddiaeth fewnol yw Pilates (neu'r dull meddwl corfforol), ac mae'n

  • arbennig o fuddiol i ddawnswyr 

  • help i osgoi anafiadau ac i adfer y corff ar ôl anafiadau

  • gwella ystum y corff a'i wneud yn fwy hyblyg a chytbwys gyda gwell cylchrediad.

BOOK NOW

tel: 02920 575 075 
email: training@communitydancewales.com

or fill in the form on the course registration page

 
       

yr holl gynnwys (h) dawns gymuned cymru