ffoto © Mark JohnsonCDWffoto © Mark Johnsonffoto © dgc
 
 

Menter Dawns y Cymoedd yn cyflwyno

'YSGYRION AC ADLEISIAU'

… archwilio Ysbryd y Cymoedd drwy ddawns …

PROFIAD DAWNS AWYR-AGORED UNIGRYW

Parc Treftadaeth y Rhondda, Pontypridd

3ydd a'r 4ydd Medi 2005, am 7.00pm

Y perfformiad dawns awyr-agored cyffrous hwn yw uchafbwynt rhaglen ddawns ddwys ddwy-wythnos o hyd, dan arweiniad artistig y coreograffydd proffesiynol Christopher Tudor ac ymarferwyr dawns proffesiynol lleol.

Bydd hyd at 120 o bobl ifainc o bob gallu, 14 oed a throsodd, o gymoedd de-ddwyrain Cymru (yn cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen) wedi cael cyfle i fwynhau a dylunio dawns.

Dewch i ymuno â ni i ddathlu dawns yn y Cymoedd

Am fwy o fanylion, cysyllter ag Angharad James, Cyd-drefnydd Dawns y Cymoedd, Dawns Gymuned Cymru Tel. 0797 168 3929 

valleys@communitydancewales.com

 
       

yr holl gynnwys (h) dawns gymuned cymru