| |
'LLE I ANADLU'
digwyddiad deuddydd arbennig
Gweithdai Dosbarth Meistr Profiadol, Artistiaid yn Rhannu, Dialog, Trafodaeth
at y cyd â Falling Wide
dydd Gwener 17eg a dydd Sadwrn 18fed Mehefin
The Gate, Roath, Cardiff
Rhaglen dawns-mewn-iechyd yw LLE I ANADLU, sy'n archwilio'r berthynas rhwng arfer artistig a lles.
Bydd Helen Poynor a Miranda Tufnell yn archwilio sut y byddwn yn cefnogi rhai sy'n dioddef afiechyd ac yn ceisio ehangu'n dealltwriaeth o'r cyfraniad y gall artistiaid ei
wneud.
DYDD GWENER Gweithdy gyda Miranda Tufnell: 'Mae dyn ar ei fwyaf naturiol wrth chwarae' - Schiller
Byddwn yn dechrau gyda'r corff sy'n synhwyro, a thrwy symud, sgrifennu a gwneud, byddwn yn dod â straeon a throsiadau i'r wyneb sy'n mynegi teimlad a thirwedd ein bywydau.
DYDD SADWRN Gweithdy gyda Helen Poynor: cyflwyniad i symud heb ffurf neu arddull penodol fel ffordd o ddyfnhau ymwybyddiaeth ac ailennyn egni, drwy ymlacio, symud a delweddu creadigol. Efallai y bydd y gweithdy'n cynnwys archwilio delweddau personol o fod yn iach a bod yn sâl.
|

|
NOS WENER 5.00 - 7.00 (darperir lluniaeth
ysgafn)
Seminar Cyfnos RHAD AC AM DDIM - Artistiaid a Lles
Pam mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn brofiad mor iachusol yn aml
iawn?
Ai'r broses artistig yw'r allwedd i'n dealltwriaeth o les?
Bydd Miranda a Helen yn arwain y drafodaeth grwp anffurfiol hon a fydd yn archwilio
syniadau, pryderon a chwestiynau ynglyn â symud creadigol a dawns fel ffordd o gefnogi rhai sy'n byw gydag
afiechyd, ar sail eu cyfoeth o brofiad o weithio gyda grwpiau ac unigolion mewn amrywiaeth o
leoliadau: o brojectau cyhoeddus gyda sefydliadau celfyddydau, i'w gwaith
preifat, i weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd.
|
Da chi, arhoswch i rannu syniadau, neu dewch atom am y rhan hon o'r
dydd.
Curadwyd gan Joe Moran ac mewn partneriaeth gyda Falling Wide, a arweinir gan y cyfarwyddwyr artistig Gaby Agis a Joe Moran. www.fallingwide.org
BOOK NOW
tel: 02920 575 075
email: training@communitydancewales.com
or fill in the form on the course
registration page
|
|