CDWffoto © dgcCDWffoto © Mark Johnson

 

pwy ydyn ni?

"... mae dawns wedi bod yn arf pwerus un natblygiad a chyfranogaeth cymunedau..."

David Clarke, The State of The Arts

Mae dawns gymuned ar gyfer pawb - mae'n dod a phobl ynghyd i ddathlu, i rannu ac i dawnsio ynghyd ar sail gyfartal.

Mae hanes chwarter canrif o hyd gan y mudiad dwns gymuned yng Nghymru. Ers mwy nag ugain mlynedd, bu grwp bychan, ymrwymedig o ymarferwyr dawns gymuned yn gweithiio ynghyd I gefnogi ei gilydd a chyfnewid syniadau. Ym 1989, cafodd y grwp fodolaeth ffurfiol fel Dawns Gymuned Cymru. Dyma'r corf ambarel cenedlaethol sy'n datblygu dawns gymuned yng Nghymru ac sy'n anelu at wella statws ac amlygrwydd dawns gymuned. Mae'r ffordd feddylgar a graddoll yr aed ati i feithrin y gelfyddyd, ei harfer a'i hymarferwyr wedi golygu fod sailstrwythur a fframwaith cenedlaethol cryf wedi datblygu.

Mae dawns gymuned:

  • yn ffordd o fynedi pwy ydych chi, fel unigolyn a fel grwp

  • yn galluogi pobl gymryd rhan a chreu gwaith sy'n adlewyrchu eu cymuned

  • yn iaith I gyfathrebu drwyddi

  • yn fodd grymus o archwilio a datblygu hunaniaeth ddiwylliannol

  • yn cefnogi mwy o hunan-barch a hyder

  • yn gwella iechyd a lles pobl

  • yn gwneud obl yn fwy cyflogadwy

Mae gan Dawns Gymuned Cymru DDATGANIAD O GYD-WERTHOEDD. 

Lawrlwythwch eich copi yma

"O'i ddefnyddio fel dull o fynegiant, gall dawns gymuned helpu pobl i weld beth yw diben eu bywydau."

Alex Bowen, Celfyddydau Cymuned y Cymoedd a'r Fro

yr holl gynnwys (h) dawns gymuned cymru