Cwrs Sylfaen
Lleoliad: Canolfan, Caerdydd
Dyddiad: 19 Mai - 10 Gorfennaff 2005.
Awdurdodwyd gan y Rhwydwaith Coleg Agored
Cyflwyniad chi mewn sgiliau arwain dawns gyda phobl ifanc yn eich cymuned
Beth yw'r cwrs Arweinydd mewn Dawns?
Cwrs yw hwn sy'n cynnig cyflwyniad i'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen er mwyn arwain dawns ar gyfer pobl ifanc yn y
gymuned.
Beth fyddaf yn ei gael ar ddiwedd y
cwrs?
Pan gwblhewch y cwrs yn llwyddiannus byddwch yn derbyn 2 credyd cymhwyster Lefel 2 Rhwydwaith y Coleg Agored (RhCA). Mae cymwysterau RhCA yn cael eu cydnabod ledled y wlad gan cyflogwyr, a bydd y cwrs 'Arweinwyr mewn Dawns - Ieuenctid' yn cynnig cyflwyniad i'r wybodaeth ymarferol a'r sgiliau angenrheidiol er mwyn hyrwyddo gweithgareddau dawns diogel a phriodol mewn amrywiaeth eang o ganolfannau
ieuenctid.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs i?
Mae'r cwrs ar gyfer unrhyw un sy'n mwynhau dawns ac sydd am ddatblygu sgiliau arwain dawns. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a wahanol gefndiroedd sydd â gwahanol brofiad, yn cynnwys dawnswyr, gweithwyr ieuenctid, athrawon, gweithwyr gofal, gweithwyr cymuned.
Dylech fod yn 16 oed o leiaf, gyda rhywfaint o brofiad o waith dawns
a/neu gymuned.
Sut mae'r cwrs Arweinwyr mewn Dawns - Ieuenctid wedi cael ei
lunio?
Mae'r cwrs yn cynnwys:
Byddwch yn cael eich ASESU ar sail mynychu'r sesuynau, cwblhau'r Llyfr Gwaith, ynghyd ag 'Asesiad Personol', ac asesiad tiwtoriaid o sesiynau
ymarferol.
Pa fath o bethau fyddwn ni'n eu
hastudio?
Bydd y meysydd gwaith yn cynnwys:
-
Y gymuned ddawns
-
Swyddogaeth yr arweinydd dawns
-
Cyfleoedd Cyfartal
-
Amrywiaeth ddiwylliannol yng Nghymru
-
Iechyd a Diogelwch sylfaenol
-
Cymorth Cyntaf sylfaenol
-
Anatomeg a Ffisoleg sylfaenol
-
Creu dawns
-
Cynllunio ac Asesu
Faint fydd cost y cwrs?
£25.00
(Os rydych chi'n gweithio'n uniongyrchol gyda pobl ifanc, rydych chi'n gymwys i dderbyn grant.)

Diddordeb? Beth ddylwn I ei wneud nawr?
I fwcio, cysylltwch â Dawns Gymuned Cymru, Gweithiwr/Gweithwraig Datblygu Cymuned ar (02920) 575 075 neu drwy e-bost
info@communitydancewales.com
Community Dance Wales
Sbectrwm
Bwlch Road
Fairwater
Cardiff
CF5 3EF
|